Gogledd Cymru

Mae Gogledd Cymru yn cwmpasu oddeutu 2,500 milltir sgwâr ac yn cynnwys chwe sir: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Ar hyn o bryd, mae 694,000 o bobl yn byw yng Ngogledd Cymru ond rhagwelir y bydd y boblogaeth yn cynyddu i 731,500 erbyn 2033.
Mae gan yr ardal boblogaeth sy’n heneiddio ynghyd â chyfran uwch o bobl 55 oed a throsodd a chyfran is o bobl rhwng 15 a 34 oed, o gymharu â Chymru gyfan.
Mae ychydig dros 20% (20.2%) o’r trigolion yn 65 oed a throsodd a rhagwelir y bydd hyn yn cynyddu 60% erbyn 2033.
Mae un rhan o bump o’r bobl sy’n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf yng Nghymru wedi’u lleoli yng Ngogledd Cymru. Er gwaethaf hyn, mae iechyd y boblogaeth yng Ngogledd Cymru yn well ar y cyfan, neu’n debyg i gyfartaledd Cymru.
Fodd bynnag, mae bwlch cynyddol mewn anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes iach rhwng y bobl sy’n byw yn yr ardaloedd o amddifadedd mwyaf a’r ardaloedd o amddifadedd lleiaf.
Mae’r Tîm Iechyd Cyhoeddus yng Ngogledd Cymru yn gweithio’n agos gyda Bwrdd Betsi Cadwaladr a phartneriaid awdurdodau lleol ac yn sicrhau bod eu gwaith yn canolbwyntio ar atal, ymyrryd yn gynnar a hybu iechyd a lles o enedigaeth, drwy gydol bywyd ac yn ystod henaint.
Safle Datblygu Rhaglen Ysbyty'r Dyfodol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Incredible Edible Wrecsam