Trais a Chamdriniaeth

Ystyrir yn gyffredinol mai patrwm o ymddygiad yw trais a mathau eraill o gamdriniaeth sydd â’r bwriad o sefydlu a chadw rheolaeth dros deulu, aelodau’r cartref, partneriaid agos, cydweithwyr, unigolion neu grwpiau. Er bod dioddefwyr fel arfer yn adnabod eu troseddwyr treisgar (partneriaid agos neu gyn-bartneriaid a chyn-ŵyr/gwragedd, aelodau o’r teulu, perthnasau, cymheiriaid, cydweithwyr ac ati) gall dieithriaid gyflawni gweithredoedd treisgar a chamdriniaeth hefyd.
Efallai mai dim ond unwaith y bydd yr achos o drais neu gamdriniaeth yn digwydd, gall gynnwys tactegau amrywiol i ddylanwadu ar rywun yn gyfrwys neu gall ddigwydd yn aml gan gynyddu dros gyfnod o fisoedd neu flynyddoedd. Beth bynnag ei ffurf, mae achosion o drais a chamdriniaeth yn cael effaith andwyol ar iechyd a lles unigolyn. Mae gwreiddiau pob math o drais i’w cael yn y mathau niferus o anghyfartaledd sy’n parhau i fodoli a thyfu mewn cymdeithas.
Defnyddir achosion o drais a chamdriniaeth i sefydlu a chadw pŵer a rheolaeth dros berson arall, ac maent yn aml yn adlewyrchu anghydbwysedd o ran pŵer rhwng y dioddefwr a’r camdriniwr.
Mae naw math penodol o drais a chamdriniaeth:
- Trais corfforol; - Bydd trais corfforol yn digwydd pan fydd rhywun yn defnyddio rhan o’i gorff neu wrthrych i reoli gweithredoedd person.
- Trais rhywiol; - Bydd trais rhywiol yn digwydd pan fydd person yn cael ei orfodi i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol yn erbyn ei ewyllys.
- Trais emosiynol; - Bydd trais emosiynol yn digwydd pan fydd rhywun yn dweud neu’n gwneud rhywbeth i wneud i’r person arall deimlo’n ffôl neu’n ddiwerth.
- Trais seicolegol; - Bydd trais seicolegol yn digwydd pan fydd rhywun yn defnyddio bygythiadau ac yn codi ofn ar unigolyn er mwyn ei reoli.
- Trais ysbrydol; - Bydd trais ysbrydol (neu grefyddol) yn digwydd pan fydd rhywun yn defnyddio credoau ysbrydol unigolyn i ddylanwadu ar y person hwnnw, ei lywodraethu neu ei reoli.
- Trais diwylliannol; - Bydd trais diwylliannol yn digwydd pan fydd unigolyn yn cael ei niweidio o ganlyniad i arferion sy’n rhan o’i ddiwylliant, ei grefydd neu ei draddodiad.
- Cam-drin Geiriol; - Bydd cam-drin geiriol yn digwydd pan fydd rhywun yn defnyddio iaith, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig, i achosi niwed i unigolyn.
- Camdriniaeth Ariannol; - Bydd camdriniaeth ariannol yn digwydd pan fydd rhywun yn rheoli adnoddau ariannol unigolyn heb ganiatâd y person neu’n camddefnyddio’r adnoddau hynny.
- Esgeulustra – Bydd esgeulustra yn digwydd pan fydd rhywun yn gyfrifol am ddarparu gofal neu gymorth i unigolyn ond na fydd yn gwneud hynny.
O: Government of Newfoundland & Labrador Violence & Aggression Initiative, 2016. (http://www.gov.nl.ca/VPI/types/ )
Adrodd gorfodol am achosion o anffurfio organau cenhedlu
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg