Polisi

Mae polisi iechyd yn cyfeirio at benderfyniadau, cynlluniau, a chamau gweithredu sy’n cael eu cymryd i gyflawni nodau gofal iechyd penodol o fewn cymdeithas. Gall polisi iechyd penodol gyflawni llawer o bethau: mae’n diffinio gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, sydd, yn ei dro, yn helpu i osod targedau a phwyntiau cyfeirio ar gyfer y tymor byr a’r tymor canolig. Mae’n amlinellu blaenoriaethau a rolau disgwyliedig gwahanol grwpiau; ac mae’n sefydlu consensws ac yn rhoi gwybodaeth i bobl. (WHO)
Gan fod iechyd, i raddau helaeth, yn cael ei bennu gan ffactorau y tu allan i’r arena iechyd, rhaid i bolisi iechyd effeithiol gynnwys pob maes polisi perthnasol, yn enwedig:
- polisi cymdeithasol a rhanbarthol;
- trethiant;
- yr amgylchedd;
- addysg;
- ac ymchwil.
Yng Nghymru, mae iechyd yn bŵer datganoledig, sy’n golygu bod gan Lywodraeth Cymru ryddid oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig i wneud penderfyniadau ynghylch polisïau a strategaethau iechyd a’u datblygu, yn ogystal â chynnig deddfau i Gymru (‘Biliau’r Cynulliad’) sy’n ymwneud ag iechyd yng Nghymru. Ymhlith yr enghreifftiau o ddatblygiadau polisi iechyd diweddar yng Nghymru mae Pwysau Iach, Cymru Iach a Cymru iachach: cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Nid dim ond cynnyrch terfynol proses ddeddfwriaethol yw polisi iechyd. Gall amrywiaeth o gyrff a sefydliadau geisio dylanwadu ar y broses o ddatblygu polisi drwy lunio briffiau polisi, datganiadau sefyllfa a chanllawiau. Bydd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio rhannu cyhoeddiadau polisi perthnasol ac amserol gan sefydliadau iechyd drwy’r Gronfa Ddata Adnoddau.
Dylai polisïau iechyd da gael eu llywio gan y dystiolaeth sy’n bodoli’n barod neu sy’n dod i’r amlwg, a dylai’r dystiolaeth hon ddylanwadu’n gryf ar y polisïau. Nod Iechyd Cyhoeddus Cymru yw cau unrhyw fylchau rhwng polisi ac ymchwil drwy ei gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol. Dan arweiniad yr Athro Mark Bellis, mae’r gyfarwyddiaeth wrth wraidd uchelgais Iechyd Cyhoeddus Cymru i wella iechyd ar draws Cymru ac yn rhyngwladol drwy nodi, lledaenu a gweithredu’r mesurau Iechyd Cyhoeddus mwyaf effeithiol.
Prif Swyddog Meddygol Cymru - Dr Frank Atherton
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg