Salwch Meddwl

Salwch Meddwl

Mae problemau iechyd meddwl yn amrywio o’r pryderon rydym i gyd yn eu profi fel rhan o fywyd bob dydd, i gyflyrau hirdymor difrifol. Gall y rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef salwch meddwl wella neu ddysgu i reoli eu problem iechyd meddwl, yn enwedig os gallant gael help yn gynnar.

Fel arfer caiff problemau iechyd meddwl eu diffinio a’u dosbarthu er mwyn galluogi pobl broffesiynol i atgyfeirio pobl at y gofal a’r driniaeth briodol. Ond mae ambell ddiagnosis yn ddadleuol a cheir llawer o bryder yn y maes iechyd meddwl bod pobl yn cael eu trin yn rhy aml yn ôl eu label, neu yn ôl y disgrifiad o’u label. Gall hyn gael effaith ddifrifol ar ansawdd eu bywydau. Serch hynny, mae diagnosis yn parhau i gael ei ddefnyddio fel dull o rannu a dosbarthu symptomau yn grwpiau.

Yn draddodiadol,  mae’r rhan fwyaf o symptomau iechyd meddwl wedi cael eu rhannu’n grwpiau a elwir yn symptomau ‘niwrotig’ neu ‘seicotig’. Mae symptomau ‘niwrotig’ yn cynnwys y symptomau hynny y gellir eu hystyried yn fathau difrifol o brofiadau emosiynol ‘normal’ fel iselder, gorbryder neu banig.  Caiff cyflyrau y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol fel ‘niwrosisau’ eu galw’n ‘broblemau iechyd meddwl cyffredin’ yn aml erbyn hyn.

Mae symptomau ‘seicotig’ llai cyffredin yn newid canfyddiad rhywun o realiti, a gall y rhain gynnwys rhithweledigaethau pan fydd person yn gweld, yn clywed, yn arogli, yn teimlo neu’n credu pethau nad ydynt yn amlwg i unrhyw un arall.

Mae problemau iechyd meddwl yn cael effaith ar y ffordd rydych yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn. Problemau y gall meddyg wneud diagnosis ohonynt ydynt, nid gwendidau personol.

Mae problemau iechyd meddwl yn gyffredin iawn.  Mae tua chwarter y boblogaeth yn profi rhyw fath o broblem iechyd meddwl mewn unrhyw flwyddyn.

Gorbryder ac iselder yw’r problemau mwyaf cyffredin, ac maent yn effeithio ar 1 o bob 10 o bobl ar unrhyw un adeg. Gall gorbryder ac iselder fod yn ddifrifol ac yn barhaus a gallant gael effaith fawr ar allu pobl i barhau â byw bywyd pob dydd.

Mae rhwng un a dau o bob 100 o bobl yn dioddef salwch meddwl difrifol, megis anhwylder deubegynol neu sgitsoffrenia, ac maent yn cael cyfnodau lle maent yn colli golwg ar realiti.  Gallai pobl sy’n dioddef o’r cyflyrau hyn glywed lleisiau, gweld pethau nad oes neb arall yn eu gweld, arddel credoau anarferol neu afresymol, teimlo’n afrealistig o bwerus, neu briodoli ystyron penodol i ddigwyddiadau pob dydd.

Er bod rhai symptomau cyffredin mewn problemau iechyd meddwl penodol, ni fydd dau berson yn ymddwyn yn yr un ffordd yn union pan fyddant yn sâl. 

Mae llawer o bobl sy’n byw gyda phroblem iechyd meddwl neu sy’n datblygu un yn ceisio cuddio eu teimladau am fod arnynt ofn sut y bydd pobl eraill yn ymateb. Yn ogystal mae llawer o bobl yn teimlo’n ofidus am nad oes ganddynt broblem iechyd meddwl sydd wedi cael diagnosis, neu y mae modd gwneud diagnosis ohoni - er nad yw hyn yn golygu nad ydynt yn ei chael hi’n anodd ymdopi â bywyd pob dydd. (Sefydliad Iechyd Meddwl)

Darllenwch fwy

 

 

Roedd gen i gi du, ei enw oedd iselder

I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg

Mae bron dri o bob pedwar person ifanc yn ofni ymateb eu ffrindiau pan fyddant yn siarad am eu problemau iechyd meddwl
Amser i Newid Cymru

Eisiau cyfrannu at yr adran hon?

Anfonwch y wybodaeth yr hoffech ei hychwanegu at y rhwydwaith

 

RT : We are looking for an innovative and engaging quality improvement expert to join our small but successful Policy & Infl…

@PHNetworkCymru

RT : You can develop skin cancer at any age but those aged 50 or over are more likely to get it http://t.co/7cpxw5cpNC #Cove…

@PHNetworkCymru

RT : Read our review of the Dementia Researcher website - we love it! And you should check it out too http://t.co/phgJ5ZOi2R @…

@PHNetworkCymru