Maeth

Mae maeth da – deiet digonol a chytbwys ynghyd â gweithgaredd corfforol rheolaidd yn hanfodol ar gyfer iechyd da. Gall maeth gwael arwain at lai o imiwnedd, mwy o debygolrwydd o gael clefydau, nam ar ddatblygiad corfforol a meddyliol, a llai o gynhyrchiant.
Nid oes un bwyd penodol yn cynnwys yr holl faethynnau hanfodol sydd eu hangen ar y corff i fod yn iach ac i weithio’n effeithlon. Mae angen i ddeiet iach a chytbwys gynnwys amrywiaeth o fwydydd o bob grŵp bwyd. Mae’r Canllaw Bwyta'n Iach yn dangos pa gyfran o fwydydd y dylid eu bwyta o’r grwpiau bwyd gwahanol er mwyn darparu deiet iach sy’n rhoi’r holl faethynnau sydd eu hangen ar y corff i fod yn heini ac iach.
Mae gan ddeiet swyddogaeth bwysig i’w chwarae mewn atal clefyd coronaidd y galon a chanser, y prif achosion marwolaeth yng Nghymru. Fel yng ngwledydd eraill y DU, nid yw ein deiet yng Nghymru yn dilyn argymhellion deietegol y llywodraeth. Mae angen polisïau a rhaglenni integredig lleol a chenedlaethol i hyrwyddo deiet iachach ac i leihau anghydraddoldebau iechyd yn effeithiol. (Bwyd a Lles, Asiantaeth Safonau Bwyd/Llywodraeth Cynulliad Cymru 2003).
Bwyd a Hwyl Caerdydd
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg