Datblygu Iechyd Rhyngwladol
Yn gynyddol, mae iechyd cyhoeddus ym mhob maes ac ar bob lefel yn cael ei ddylanwadu gan ystyriaethau byd-eang.
Gall yr hyn a ddysgir a'r wybodaeth a rennir er mwyn datblygu polisïau, ymarfer ac ymchwil effeithiol wella'n sylweddol drwy ymgysylltu a chydweithio â chydweithwyr ym mhob cwr o'r byd sy'n wynebu'r un problemau a'r un materion o ran hyrwyddo a diogelu iechyd y bobl o bob cwr o'r byd. Ar yr un pryd gallwn ddarparu'r wybodaeth ymarferol rydym wedi ei chywain o'n profiadau ein hunain - mynd i'r afael â phroblemau sydd wedi amlygu eu hunain yn gynharach nag mewn rhannau eraill o'r byd; a datblygu rhaglenni a phrosiectau llwyddiannus.
Mae'r 'byd sy'n crebachu' a'r economi fyd-eang wedi arwain at fygythiadau a chyfleoedd i iechyd cyhoeddus mewn meysydd fel rheoli clefydau heintus; cefnogi datblygu cynaliadwy; sicrhau cadwyn fwyd ddiogel a chadarn; mynd i'r afael â chynhesu byd-eang a'r her barhaus o leihau anghydraddoldebau iechyd a hybu tegwch o ran iechyd gartref a thramor, ymhlith pethau eraill. Mae mynd i'r afael â ffactorau allweddol sy'n dylanwadu ar iechyd a lles, fel ysmygu, y defnydd o alcohol, gweithgaredd corfforol a deiet, a'r nifer frawychus o achosion o glefydau anhrosglwyddadwy sydd wedi bod yn fwrn arnom ers degawdau, yn parhau i fod yn her i wledydd datblygedig a gwledydd sy'n datblygu.
Gan ei bod yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, mae heriau ac ymrwymiadau economaidd Ewropeaidd; rhaglenni ymchwil ac arloesedd; a pholisïau iechyd a diogelwch yn myfyrio ar Gymru ac iechyd ei phoblogaeth. Ceir hefyd nifer o gyfleoedd cyllido Ewropeaidd, a all gynorthwyo ein nodau a'n blaenoriaethau a darparu mwy o adnoddau i'w cyflawni.
Mae Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o Gyfarwyddiaeth Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan amlygu'r cysylltiad cryf rhwng y Rhwydwaith hwn a'r agenda iechyd ryngwladol yng Nghymru. Drwy waith agos rhwng Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Is-adran Datblygu Iechyd Rhyngwladol, ein nod yw:
- Hysbysu aelodau o'r Rhwydwaith am dystiolaeth ymchwil, ymarfer a pholisïau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg o bob rhan o'r byd, sy'n berthnasol i iechyd cyhoeddus yng Nghymru.
- Cynnwys aelodau o'r Rhwydwaith mewn rhwydweithiau iechyd rhyngwladol, datblygiadau a digwyddiadau i hwyluso rhannu gwybodaeth a phrofiad a gwella cydweithio.
- Ymgysylltu ag aelodau'r Rhwydwaith i lywio'r agenda Datblygu Iechyd Rhyngwladol a nodi arferion iechyd cyhoeddus da ac asedau ledled Cymru i'w hyrwyddo'n rhyngwladol.
Cyflwr Iechyd yn yr UE
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg