Hawliau Dynol

Mae deall iechyd fel hawl dynol yn creu dyletswydd gyfreithiol ar wladwriaethau i sicrhau mynediad at ofal iechyd prydlon, derbyniol a fforddiadwy yn ogystal â darparu ar gyfer penderfynyddion sylfaenol iechyd, fel dŵr diogel ac yfadwy, glanweithdra, bwyd, tai, gwybodaeth yn ymwneud ag iechyd ac addysg, a chydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Mae ymagwedd yn seiliedig ar hawliau dynol tuag at iechyd yn rhoi set glir o egwyddorion ar gyfer gosod a gwerthuso polisi iechyd a chyflwyno gwasanaethau, targedu arferion sydd yn gwahaniaethu a chysylltiadau grym anghyfiawn sydd wrth wraidd canlyniadau iechyd annheg.
Mae hawliau dynol yn rhyngwladol ac yn ddiymwad. Maent yn berthnasol yn gyfartal, i bawb, ym mhobman, heb wahaniaeth. Mae safonau Hawliau Dynol – yn ymwneud â bwyd, iechyd, addysg, bod yn rhydd rhag artaith, triniaeth annynol neu ddiraddiol – yn rhyng-gysylltiedig hefyd. Mae gwella un hawl yn hwyluso gwelliant y lleill. Yn yr un modd, mae amddifadedd un hawl yn cael effaith niweidiol ar y lleill.