Atal Damweiniau ac Anafiadau

Mae anafiadau - sy'n deillio o wrthdrawiadau traffig, boddi, gwenwyn, cwympiadau neu losgiadau – a thrais – drwy ymosodiad, trais hunanachosedig neu ryfel – yn lladd mwy na phum miliwn o bobl ledled y byd bob blwyddyn ac yn achosi niwed i filiynau.
Maent yn gyfrifol am 9% o farwolaethau yn fyd-eang, ac yn fygythiad i iechyd ym mhob gwlad yn y byd. Ar gyfer pob marwolaeth, amcangyfrifir bod dwsinau o dderbyniadau i ysbytai, cannoedd o ymweliadau ag adrannau achosion brys a miloedd o apwyntiadau gyda meddygon. Caiff cyfran fawr o'r bobl sy'n goroesi eu hanafiadau anabledd dros dro neu barhaol.
Dagu neu Gagio?
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg