Tlodi

Mae tlodi, amddifadedd cymharol ac allgau cymdeithasol yn cael effaith sylweddol ar iechyd a marwolaethau cyn pryd, ac mae rhai grwpiau cymdeithasol yn wynebu llawer mwy o risg o fyw mewn tlodi nag eraill. Mae tlodi absoliwt - diffyg hanfodion materol sylfaenol bywyd - yn parhau i fodoli, hyd yn oed yng ngwledydd cyfoethocaf Ewrop. Pobl ddi-waith, llawer o grwpiau lleiafrifoedd ethnig, gweithwyr gwadd, pobl anabl, ffoaduriaid a phobl ddigartref sy’n wynebu’r risg fwyaf. Pobl sy’n byw ar y stryd sy’n dioddef y cyfraddau uchaf o farwolaethau cyn pryd.
Ystyr tlodi cymharol yw bod yn llawer tlotach na’r rhan fwyaf o bobl mewn cymdeithas ac fe’i diffinnir yn aml fel byw ar lai na 60% o’r incwm canolrifol cenedlaethol. Mae’n golygu nad yw pobl yn gallu cael gafael ar dai o safon, addysg, trafnidiaeth a ffactorau eraill sy’n hanfodol er mwyn cymryd rhan lawn mewn bywyd. Mae cael eu heithrio o fywyd mewn cymdeithas a chael eu trin yn llai na chyfartal yn arwain at iechyd gwaeth a mwy o risg o farw cyn pryd. Mae’r straen o fyw mewn tlodi yn arbennig o niweidiol yn ystod beichiogrwydd ac i fabanod, plant a hen bobl. Mewn rhai gwledydd, mae cymaint â chwarter o’r boblogaeth gyfan – a chyfradd uwch o blant – yn byw mewn tlodi cymharol.
Neil Graham a Jude Williams, Low Income, Debt and Health, Cyh: Adran Iechyd, 01 Ebrill 2011.
Tlodi yng Nghymru
Mae Strategaeth Tlodi Plant 2015 Llywodraeth Cymru yn edrych ar leihau anghydraddoldebau iechyd fel ffactor yn y broses o leihau tlodi plant. Yn y strategaeth hon, cydnabyddir bod gwella iechyd hefyd yn ffactor sy’n cyfrannu at gamau sy’n ymwneud â thai ac adfywio, adnoddau naturiol a’r celfyddydau a diwylliant. Cyfeirir at dlodi bwyd fel mater cynyddol bwysig yng Nghymru hefyd.
"DIM PWYNT MYND HANNER FFORDD"
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg