Ffordd o Fyw

Mae ffordd o fyw yn cyfeirio at batrymau ymddygiad pobl. Caiff y patrymau ymddygiad hyn eu ffurfio gan werthoedd diwylliannol a chredoau, sy’n cael eu dylanwadu gan amgylchiadau economaidd-gymdeithasol personol.
Gall ymddygiad niweidiol, er enghraifft yfed yn drwm, gael ei gymeradwyo o fewn rhai grwpiau neu mewn rhai amgylchiadau, sy’n golygu bod ceisio newid ymddygiad pobl yn her fawr. Gall bwyta deiet iach gael ei ddylanwadu gan argaeledd a chostau bwyd a’r amser sy’n gysylltiedig â hynny. Fodd bynnag, mae llawer o ddadlau ynghylch y dewis sydd ar gael i bobl o ran ymddygiad ffordd o fyw.
Ffordd o Fyw ac Iechyd: Cymru a’i Byrddau Iechyd
Cadw’n Iach yng Nghymru
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg