Anghydraddoldebau Iechyd

Mae annhegwch ym maes iechyd yn anghydraddoldebau iechyd y gellir eu hosgoi rhwng grwpiau o bobl o fewn gwledydd a rhwng gwledydd. Deillia'r annhegwch hwn o anghydraddoldebau o fewn cymdeithas a rhwng cymdeithasau. Amodau cymdeithasol ac economaidd a'u heffeithiau ar fywydau pobl sy'n pennu eu risg o salwch a'r camau a gymerir i'w hatal rhag mynd yn sâl neu i drin salwch pan fydd yn digwydd.
Y rhai tlotaf un, ym mhob cwr o'r byd, sydd â'r iechyd gwaethaf. O fewn gwledydd, dengys y dystiolaeth yn gyffredinol mai yr isaf yw safle economaidd-gymdeithasol unigolyn, y gwaethaf yw ei iechyd. Ceir graddiant cymdeithasol ym maes iechyd sy'n mynd o frig y sbectrwm economaidd-gymdeithasol i'r gwaelod. Dyma ffenomen fyd-eang a welir mewn gwledydd sydd ag incwm isel, canolig ac uchel. Mae'r graddiant cymdeithasol ym maes iechyd yn golygu bod annhegwch ym maes iechyd yn effeithio ar bawb.
Mae'r cyd-destun byd-eang yn effeithio ar sut y mae cymdeithasau yn ffynnu drwy ei effaith ar gysylltiadau rhyngwladol a normau a pholisïau domestig. Mae'r rhain yn eu tro yn llunio'r ffordd y mae cymdeithas, yn genedlaethol ac yn lleol, yn trefnu ei hun, gan arwain at fathau o safle cymdeithasol a hierarchaeth, ble y caiff y boblogaeth ei threfnu yn unol ag incwm, addysg, galwedigaeth, rhyw, hil/ethnigrwydd a ffactorau eraill. Mae lle pobl o fewn hierarchaeth gymdeithasol yn effeithio ar yr amodau y maent yn tyfu, yn dysgu, yn byw ac yn gweithio ynddynt a'u hoedran, pa mor agored ydynt i salwch a chanlyniadau salwch.
Ddaear Fach. Rhifyn 2012. Fersiwn swyddogol
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg