Yr Amgylchedd Naturiol

Mae effaith yr amgylchedd adeiledig ar iechyd wedi cael cryn sylw dros yr ychydig ganrifoedd diwethaf. Fodd bynnag, dim ond yn ddiweddar y daeth tystiolaeth i’r amlwg yn nodi rôl a phwysigrwydd yr amgylchedd naturiol mewn perthynas ag iechyd.
Er y cydnabuwyd bod bywyd gwledig yn gallu cael effeithiau niweidiol ar iechyd o ganlyniad i fynediad cymdeithasol a daearyddol i wasanaethau, dim ond yn ddiweddar y rhoddwyd cydnabyddiaeth briodol i ddylanwad mwy uniongyrchol yr ‘amgylchedd gwyrdd’ ar iechyd meddwl a chorfforol. Mae’r ‘ddamcaniaeth biophilia’ sy’n awgrymu bod perthynas gynhenid rhwng pobl a natur wedi cael ei derbyn yn ehangach gan fod mwy o dystiolaeth wedi dod i’r golwg sy’n ategu perthynas o’r fath ac mae pobl yn fwy parod i gredu’r dystiolaeth honno. Mae astudiaethau yn awgrymu bod amlygiad i fannau gwyrdd yn cael effaith ar leihau straen, adferiad corfforol ar ôl salwch a lles meddwl a chorfforol gwell ymhlith pethau eraill.
Nid yw rôl yr amgylchedd naturiol yn gyfyngedig i gefn gwlad yn unig. Er bod manteision iechyd amlwg i fyw yn y wlad, mae hefyd yn dod yn gynyddol amlwg bod 'mannau gwyrdd' mewn trefi yr un mor bwysig, boed drwy ddarparu cyfleoedd ar gyfer gweithgaredd corfforol, chwarae a hamdden, tyfu bwyd neu yn llai uniongyrchol drwy wella estheteg y gymdogaeth, lleihau ofn yn sgil troseddau neu leihau llygredd trefol er enghraifft.
Iechyd a Hamdden Awyr Agored Lles | Adnoddau ar gyfer Iechyd
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg