Tai

Mae tai ac amgylcheddau dan do o safon wael yn achosi neu’n cyfrannu at lawer o glefydau ac anafiadau y gellir eu hatal, megis clefydau anadlol, clefydau’r system nerfol, clefydau cardiofasgwlaidd a chanser.
Ymhlith yr enghreifftiau o risgiau iechyd allweddol sy’n ymwneud â thai mae: clefydau anadlol a chardiofasgwlaidd yn sgil llygredd aer dan do; salwch a marwolaethau o ganlyniad i dymheredd eithafol; clefydau trosglwyddadwy yn lledaenu oherwydd amodau byw gwael, a risgiau o anafiadau yn y cartref. Mae system awyru annigonol hefyd yn gysylltiedig â risg uwch o drosglwyddo clefyd heintus a gludir drwy’r aer, gan gynnwys twbercwlosis, yn ogystal â chrynodiad llygryddion dan do a lleithder, sy’n ffactorau yn natblygiad alergeddau ac asthma. Sefydliad Iechyd y Byd
Cyfraniad hanfodol tai tuag at wella canlyniadau iechyd i Gymru
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg