Dinasoedd Iach

Mae Rhwydwaith Dinasoedd Iach y DU yn rhan o fudiad byd-eang ar gyfer iechyd trefol sy'n cael ei arwain a'i gynorthwyo gan Sefydliad Iechyd y Byd. Ei weledigaeth yw datblygu rhwydwaith creadigol, cynorthwyol ac ysgogol i ddinasoedd a threfi'r DU sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac yn ymdrechu i roi gwella iechyd a chydraddoldeb iechyd wrth wraidd pob polisi lleol.
Mae Dinasoedd Iach yn ymwneud ag awdurdodau lleol a'u partneriaid i ddatblygu iechyd drwy broses o ymrwymiad gwleidyddol, newid sefydliadol, meithrin gallu ac adnoddau, cynllunio'n seiliedig ar bartneriaeth a phrosiectau arloesol. Mae Dinasoedd Iach yn ceisio cymhwyso egwyddorion Iechyd i Bawb fel tegwch, grymuso, cydweithio rhwng sectorau a chyfranogi cymunedol drwy gamau gweithredu lleol mewn lleoliadau trefol. Mae dinas Abertawe wedi cyflawni statws Dinas Iach.
Tuag at wneud pob dinas yn ddinas iach
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg