Cyn-filwyr

Cyn-filwr yw rhywun sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog am ddiwrnod o leiaf. Mae tua 2.8m o gyn-filwyr yn y DU. Pan fydd dynion a menywod yn gadael y lluoedd arfog, bydd eu gofal iechyd yn gyfrifoldeb i’r GIG. Mae gan bob cyn-filwr hawl i gael blaenoriaeth i ofal y GIG (yn cynnwys gofal ysbyty, sylfaenol neu gymunedol) yn ymwneud â chyflyrau sydd yn gysylltiedig â’u cyfnod yn y lluoedd arfog (yn ymwneud â gwasanaeth). Fodd bynnag, mae hyn bob amser yn amodol ar angen clinigol ac nid yw’n rhoi hawl i chi neidio o flaen rhywun ag angen clinigol uwch. Am fwy o wybodaeth am ddyletswydd gofal i bersonél gwasanaeth, darllenwch Gyfamod y Lluoedd Arfog (PDF)
Nid yw’r rhan fwyaf o bersonél milwrol Prydain yn profi problemau iechyd meddwl tra’u bod yn gwasanaethu, nac ar ôl hynny yn ystod eu bywyd y tu hwnt i’r lluoedd arfog.
Fodd bynnag, maent yn wynebu peryglon unigryw wrth wasanaethu a gall fod angen triniaethau penodol a gwasanaethau iechyd meddwl penodol arnynt. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Fideo swyddogol Cymdeithas Cyn-filwyr y DU (VAUK)
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg