Rhyw

Gall gwahaniaethau ac anghydraddoldebau rhwng y rhywiau arwain at annhegwch rhwng dynion a menywod o ran statws iechyd a mynediad i ofal iechyd. Er enghraifft:
- Ni all menyw gael y gofal iechyd sydd ei hangen arni oherwydd bod normau yn ei chymuned yn ei hatal rhag teithio i glinig ar ei phen ei hun.
- Mae bachgen yn ei arddegau yn marw mewn damwain am ei fod yn ceisio cyflawni disgwyliadau ei gyfoedion y dylai dynion ifanc fod yn “fentrus” a chymryd risgiau.
- Mae menyw briod yn dal HIV am fod safonau cymdeithasol yn annog ei gŵr i gael perthnasau rhywiol gyda phobl eraill ac ar yr un pryd yn ei hatal hi rhag mynnu ei fod yn defnyddio condom.
- Mae cyfradd y dynion sy’n marw o ganser yr ysgyfaint mewn un wlad yn llawer uwch na’r gyfradd ar gyfer menywod oherwydd ystyrir bod ysmygu yn arwydd o wrywdod, ac yn rhywbeth anfoesol ymhlith menywod.
Ym mhob un o’r achosion hyn, mae normau a gwerthoedd ymhlith y rhywiau, a’r ymddygiadau sy’n deillio ohonynt, yn cael effaith negyddol ar iechyd. Mewn gwirionedd, gall y darlun o’r rhywiau mewn cyfnod a lle arbennig fod un un o’r prif rhwystrau – os nad y rhwystr pwysicaf – sy’n gwahanu dynion a menywod a’r broses o sicrhau lles Sefydliad Iechyd y Byd.
I'r rheiny sy'n uniaethu â'r rhyw a ddynodwyd ar eu tystysgrif geni, mae hyn bellach wedi ei ddiffinio'n ffurfiol fel 'Cisgender'. (O bapur newydd 'i', dydd Iau 25 Mehefin)
Yn ogystal, gall unigolyn brofi anghysur neu ofid oherwydd nad yw ei ryw biolegol yn cyd-fynd â’i hunaniaeth o ran rhywedd. Gelwir hyn yn ddysfforia rhyw. Er enghraifft, efallai y bydd gan rai pobl gorff dyn, ond eu bod yn adnabod eu hunain fel menyw, ac efallai fod eraill yn teimlo nad ydynt yn ddyn nac yn fenyw. Ceir rhagor o wybodaeth am ddysfforia rhyw ar Galw Iechyd Cymru.
Cydraddoldeb rhywiol ac iechyd
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg