Carcharorion

Mae mwynhau iechyd meddwl a chorfforol o’r safon uchaf posibl yn hawl dynol sylfaenol i bob unigolyn yn ddiwahân. Fodd bynnag, mae carcharorion yn ysgwyddo baich anghyfartal o ran problemau iechyd gan fod eu hanghenion iechyd yn cael eu hesgeuluso’n aml. Mae Egwyddorion Sylfaenol y Cenhedloedd Unedig (1990) ar gyfer Trin Carcharorion yn nodi y caiff "carcharorion fynediad at y gwasanaethau iechyd sydd ar gael yn y wlad heb wahaniaethu ar sail eu sefyllfa gyfreithiol" (Egwyddor 9, A/RES/45/111).
Yn y cyd-destun hwn, mae angen ymdrechion pellach i sicrhau bod carchardai’n hybu iechyd drwy wneud y canlynol:
- darparu gwasanaethau iechyd hafal i’r hyn a ddarperir ar hyd a lled y wlad;
- lleihau’r peryglon i iechyd gymaint â phosibl;
- parchu urddas a hawliau dynol pob carcharor.
Sefydliad Iechyd y Byd - Carchardai
Dyfarniadau CSJ: Waliau Anweledig Cymru - Enillydd Gwobr Teulu
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg