Pobl ag Anableddau Dysgu

Mae pobl ag anableddau dysgu yn llawer mwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd – problemau iechyd meddwl a chorfforol – o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol.
Yn ychwanegol, maen nhw’n debygol o’i chael hi’n anoddach disgrifio’u symptomau. O ganlyniad mae’n anoddach i weithwyr gofal iechyd adnabod anghenion iechyd ymysg pobl ag anableddau dysgu, ac felly bydd rhai problemau na fyddant yn cael eu darganfod. Darganfuwyd hefyd bod gan bobl ag anableddau dysgu lai o fynediad at wasanaethau sgrinio ataliol cyffredinol ac at weithdrefnau hybu iechyd, megis sgrinio’r fron neu sgrinio serfigol.
Sefydliad ar gyfer Pobl ag Anableddau Dysgu
Gwiriadau iechyd Cymru
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg