Oedolion o Oedran Gweithio

Yn 2001, oedran canolrifol poblogaeth Cymru oedd 38 oed. Roedd hyn wedi cynyddu o 36 ym 1991 a 34 ym 1981. Roedd tri o bob pump o bobl o oedran gweithio (dynion 16 i 64 oed, menywod 16 i 59 oed), ac roedd un o bob pump dros oedran gweithio ac un o bob pump o dan 16 oed, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2004
Mae problem iechyd meddwl, fel iselder neu orbryder, yn effeithio ar bron 1 o bob 6 (tua 16%) o weithlu Cymru. Mae Arolwg Iechyd Cymru 2008-2009, yn nodi bod 10% o oedolion ledled Cymru wedi hunangofnodi eu bod yn derbyn triniaeth ar gyfer salwch meddwl, gan gynnwys straen, iselder, neu unrhyw salwch iechyd meddwl arall. Gellid esbonio'r anghysondeb hwn drwy dangofnodi yn sgil y stigma a'r disgwyliadau diwylliannol sy'n gysylltiedig â hyn. Dangosodd yr un arolwg fod canran yr oedolion o oedran gweithio sy'n hunangofnodi eu bod yn cael triniaeth am salwch meddwl ar ei hisaf ym Mwrdd Iechyd Lleol Powys ac ar ei huchaf ym Mwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf. Deoniaeth Cymru, 2015
Beth yw Iechyd Cyhoeddus?
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg