Plant a Phobl Ifanc

Plant a phobl ifanc yw'r rhai rhwng 0 – 24 oed ac maent yn cyfateb i ychydig dros 30% o'r boblogaeth.
Caiff sylfeini hanfodol iechyd oedolion eu gosod yn ystod bywyd cynenedigol a phlentyndod cynnar. Mae cysylltiad cryf rhwng anghydraddoldebau yn ystod plentyndod o ran iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol â risg gynyddol gydol oes o iechyd corfforol a meddyliol gwael ar ôl tyfu'n oedolyn.
Mae hybu a diogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc yn hollbwysig er mwyn atal salwch a/neu anfantais gymdeithasol yn yr hirdymor.
Cyd-destun Cymru
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac mae wedi llunio saith nod craidd ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'r nodau craidd yn cyfeirio at hawl plant a phobl ifanc i gael gwasanaethau addysgol ac iechyd, ynghyd â'u hawl i gael eu clywed ac i gyfrannu at y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt; mae hyn yn cynnwys cael y wybodaeth angenrheidiol i allu gwneud dewisiadau. Dylid ystyried a defnyddio'r nodau craidd wrth greu neu gynnal gwasanaethau iechyd sydd wedi'u hanelu at blant a phobl ifanc.
Mae Chwarae Cymru'n elusen annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chymru yw ardal ein cylch gwaith elusennol.
Maent yn gweithio i godi ymwybyddiaeth ynghylch angen a hawl plant a phobl ifanc i chwarae ac i hyrwyddo arfer da ar bob lefel o'r broses wneud penderfyniadau ac ym mhobman ble y gall plant chwarae.
Maent yn darparu cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn neu gyfrifoldeb dros ddarparu ar gyfer chwarae plant, fel y bydd Cymru un diwrnod yn wlad ble y byddwn yn cydnabod ac yn darparu'n ddigonol ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn.
ACEs
Lansio Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACE), lansiodd
I weld mwy o fideos ar y testun hwn, ewch i'r dudalen sain a golwg