Trallod sylweddol yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â risg uwch o ddigartrefedd

Mae pobl yng Nghymru sydd wedi dioddef trallod sylweddol yn ystod plentyndod 16 gwaith yn fwy tebygol na'r boblogaeth gyffredinol o brofi digartrefedd, yn ôl astudiaeth newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r astudiaeth hefyd yn canfod bod ‘ffactorau cydnerthedd’ yn ystod plentyndod, fel teimlo'n rhan o gymuned neu gael perthynas ddibynadwy, sefydlog gydag oedolyn, yn diogelu rhag y profiadau hyn sy'n arwain at ddigartrefedd.

Mae'r canfyddiadau'n awgrymu y gallai canlyniadau iechyd a chymdeithasol negyddol fel digartrefedd gael eu lleihau drwy liniaru neu atal Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE). 

Mae saith y cant o bobl yng Nghymru wedi profi digartrefedd. Mae hyn yn cymharu â ffigurau a nodwyd yn flaenoroll yn yr Alban, sef pump y cant, a naw y cant yn Lloegr.

Meddai'r awdur arweiniol Dr Charlotte Grey, Ymchwilydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Dylai pawb gael lle sefydlog a diogel i fyw, oherwydd rydym yn gwybod bod digartrefedd yn cael effaith ddinistriol ar iechyd a llesiant corfforol a meddyliol.

“Mae'r ffactorau sy'n achosi digartrefedd yn gymhleth, gan gynnwys diffyg tai fforddiadwy, diweithdra, anfantais, a digwyddiadau bywyd trawmatig. Mae'r adroddiad yn darparu tystiolaeth gref o gysylltiad sylweddol rhwng Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) a phrofi digartrefedd yn ddiweddarach mewn bywyd.”

Meddai'r cyd-awdur Louise Woodfine, Prif Arbenigwr Iechyd Cyhoeddus ac Arweinydd Tai ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:  
“Mae'r adroddiad hwn yn rhoi gobaith y gellir gwella'r darlun o ddigartrefedd yng Nghymru drwy leihau ac atal ACE. Mae hefyd yn darparu tystiolaeth y gellir lliniaru niwed os bydd unigolion sydd wedi dioddef trallod plentyndod yn teimlo'n rhan o gymuned, os bydd ganddynt fynediad i berthynas ddibynadwy gydag oedolyn sefydlog, neu fynediad i gymuned ysgol gefnogol, ymhlith asedau eraill sy'n gwella cydnerthedd.”


Meddai Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr elusen digartrefedd a chysgu allan, The Wallich:
“Nid yw digwyddiad trawmatig yn arwain yn awtomatig at fod yn ddigartref. Fodd bynnag, gall profiadau fel hyn, nad ydynt yn cael eu nodi na'u trin ar y pryd, effeithio ar berson i'r fath raddau y daw'n debygol y gall mwy o drawma, fel profi digartrefedd, ddigwydd yn ddiweddarach. 
“Dim ond un ochr o'r geiniog yw cydnabod ACE o ran mynd i'r afael â digartrefedd a'i atal.  Mae'r Wallich yn cymryd camau i gael mwy o'n cleientiaid y mae angen cwnsela arnynt i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.  Mae'n galonogol gweld cyrff cyhoeddus eraill, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn edrych ar achosion cymhleth a chymdeithasol ehangach digartrefedd oherwydd bydd angen ymateb y gymuned gyfan er mwyn rhoi terfyn ar ddigartrefedd.”

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at nifer o ystyriaethau ar gyfer camau gweithredu pellach er mwyn mynd i'r afael ag ACE a'u lliniaru, gan gynnwys:

  • Gwella capasiti ac ymwybyddiaeth o ACE mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy sicrhau dull amlasiantaeth, sy'n cael ei lywio gan drawma sy'n rhoi pwyslais ar atal yn hytrach nag ymateb i argyfyngau
  • Gwell dealltwriaeth a mynd i'r afael ag anghenion cymorth plant ac oedolion agored i niwed, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr ymddygiad a gyflwynir, a chydnabod pwysigrwydd perthynas ddibynadwy gyda'r gymuned a'r teulu ac mewn gwasanaethau i'r rhai sydd wedi profi ACE
  • Galluogi lleoliadau blynyddoedd cynnar fel ysgolion i sicrhau bod camau gweithredu cynnar yn digwydd i gynorthwyo'r plentyn agored i niwed a'i deulu
  • Er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i fabwysiadu dull ‘hawliau plant’, i rymuso plant a'u helpu i ddeall beth sy'n digwydd iddynt a sut y gallant gyfathrebu eu profiadau a chael cymorth.

Mae’r adroddiad o ganlyniad i ddadansoddiad o ddata arolwg ACE a Chydnerthedd Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017 o 2,497 o bobl, ynghyd â chyfweliadau â 27 o bobl â phrofiad o ddigartrefedd ac 16 o ddarparwyr gwasanaethau sydd â rôl i'w chwarae o ran camau ataliol cynnar.

Dywedodd mwy nag wyth o bob 10 (87 y cant) o'r rhai â phrofiad o ddigartrefedd eu bod wedi profi o leiaf un Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) o gymharu â chyfartaledd Cymru, sef 46 y cant.

Nododd hanner y rhai â phrofiad o ddigartrefedd (50 y cant) iddynt brofi pedwar neu fwy o ACE. Mae hyn yn cymharu ag ychydig dros 1 o bob 10 (11 y cant) yn y boblogaeth ehangach.

Mae ymddygiad ymdopi negyddol - fel perthnasoedd afiach, methu ymdopi â rheolau a chamddefnyddio sylweddau - yn aml yn dechrau yn ystod blynyddoedd yr arddegau mewn ymateb i fywyd cartref anhrefnus, a gall arwain atynt yn methu ymdopi'n academaidd a phresenoldeb gwael yn yr ysgol. Mae'r ymddygiad adweithiol hwn yn parhau pan fyddant yn oedolion, gan arwain at ddigartrefedd. Mae angen cymorth cynnar ar blant ac oedolion agored i niwed er mwyn eu helpu i reoli eu trawma a meithrin cydnerthedd.

Ceisiodd yr astudiaeth drafod y berthynas rhwng trallod yn ystod plentyndod a'r risg ddiweddarach o ddigartrefedd, yn ogystal â thrafod y cyfleoedd allweddol ar gyfer ymyrryd yn gynnar.

Mae'r astudiaeth yn cefnogi'r angen i feddwl am ddigartrefedd mewn ffordd wahanol ac ystyried ffyrdd newydd o leihau ac atal digartrefedd drwy atal a lliniaru ACE mewn plant, a chefnogi oedolion agored i niwed sy'n canfod bod ACE yn un o achosion digartrefedd ac yn rhwystr i gael mynediad i gymorth.

Adroddiad

Lleisiau’r rhai sydd â phrofiadau personol o ddigartrefedd a niwed yng Nghymru: Llywio gwaith atal ac ymateb 2019