Risg yn Elfen Hanfodol o Chwarae Plant

Mae chwarae heb risg fel ci poeth heb fwstard.  Mae’n well na dim ond mae gymaint yn fwy blasus pan fydd y ddau gyda’i gilydd.  Mae rhywfaint o werth i chwarae heb risg, ond mae’n mynd yn ddiflas yn gyflym iawn.  Wrth chwarae, mae plant yn ymestyn eu ffiniau ac yn cryfhau eu galluoedd yn barhaus.

Mae hyn yn golygu cymryd risg, ac maent yn gwneud hynny trwy asesu eu galluoedd eu hunain a’u paru ag amodau eu hamgylchedd.  A yw’r canghennau’n ddigon cryf i mi allu dringo’n uwch?  Alla i neidio o’r siglen i mewn i’r pwll tywod?  Alla i ddringo’r ysgol i’r llithren uchel?  Alla i neidio o’r bwrdd plymio uchel?  Mae chwarae yn llawn dewisiadau o’r fath, ond pan gaiff ei ddiogelu a’r risg yn cael ei ddileu, fel sydd yn digwydd mor aml heddiw, mae plant yn colli diddordeb.

Mae cytundeb eang bod plant heddiw yn chwarae llai, yn fwy eisteddog a thros eu pwysau, ac yn ymddangos yn llai abl i ddatrys anawsterau cymdeithasol gyda chyfoedion. Mae sgorau creadigrwydd ymysg plant wedi bod yn gostwng er 1990, er gwaetha’r angen sy’n cael ei gydnabod am fwy o greadigrwydd yn yr 21ain ganrif.  Mae addysg yn rhoi llai a llai o gyfle i chwarae a chreadigrwydd, ac mae tuedd i fywyd yn y cartref gael ei reoli gan amser sgrin a/neu weithgareddau wedi eu trefnu a’u harwain gan oedolion.  Er bod rhai o’r gweithgareddau hyn yn werthfawr i blant, ni ddylent ddisodli amser chwarae o dan gyfarwyddyd plant a ysgogir gan blant.  Mewn chwarae o’r fath mae plant yn dod i adnabod eu hunain a’r byd o’u hamgylch.  Mewn chwarae o’r fath mae plant yn cymryd siawns ac yn dysgu i ymdopi â risg.

Darllenwch fwy yma